Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Tachwedd 2019
Amser:
09.00 -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5729
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Andrew RT Davies AC Llyr Gruffydd AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
James Byrne, Ymddiriedolaethau Natur Cymru Eleri Davies, Innogy Renewables UK Anthony Geddes, Confor Rhys Wyn Jones, Renewable UK Cymru Jerry Langford, Coed Cadw Will Ryan, Savills Mike Wilkinson, RSPB Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Neil Hamilton AC.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Will Ryan, Cyfarwyddwr, Cynllunio, Savills; Rhys Wyn Jones, Pennaeth, Renewable UK Cymru; ac Eleri Davies, Pennaeth Caniatâd y DU, Innogy Renewables UK Ltd.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan James Byrne, Rheolwr Tirweddau Byw, Ymddiriedolaethau Natur Cymru; Anthony Geddes, Rheolwr Cenedlaethol Cymru, Confor; Jerry Langford, Rheolwr Materion Cyhoeddus, Coed Cadw; Mike Wilkinson, Uwch Gynllunydd Cadwraeth, RSPB Cymru.
4.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Graeme Purves, Cynghorwr Arbenigol i'r Pwyllgor.
5.2 Trafododd ac adolygodd y Pwyllgor y dystiolaeth sydd wedi dod i law ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft Cymru 2020-2040.
5.3 Cododd y Pwyllgor faterion ac argymhellion y mae am eu codi yn ei adroddiad i Lywodraeth Cymru.
6.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu o ran ei waith ar dlodi tanwydd a chytunodd arno.